Psalms 85

Gweddi am les y genedl

I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.

1O Arglwydd, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir,
ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.
2Ti wedi symud euogrwydd dy bobl,
a maddau eu pechodau i gyd.

 Saib
3Ti wedi tynnu dy lid yn ôl,
a throi cefn ar dy wylltineb.
4Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr!
Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.
5Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth?
Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?
6Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto,
i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!
7O Arglwydd, dangos dy gariad ffyddlon i ni.
Plîs achub ni!
8Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud:
Ydy wir! Mae'r Arglwydd yn addo heddwch
i'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon –
ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb!
9Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e;
wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto.
10Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd;
bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.
11Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir,
a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12Bydd yr Arglwydd yn rhoi pethau da i ni;
a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.
13Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen
ac yn paratoi'r ffordd iddo.
Copyright information for CYM